Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth,
12 Rhagfyr 2017
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4665
------
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd y 7 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.19
Dechreuodd yr eitem am 14.33
Gwnaeth Darren Millar ddatganiad personol.
Dechreuodd yr eitem am 14.39
Dechreuodd yr eitem am 15.29
Dechreuodd yr eitem am 16.07
Dechreuodd yr eitem am 16.58
NDM6609 Julie James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o’r Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Tachwedd 2017.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 17.16
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM6608 Julie James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi Adolygiad Blynyddol Pwyllgor Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru 2016-2017.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y ffaith bod nod y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol o gael gwared ar drais yn y gymuned yn cael ei lesteirio gan y diffyg cynnydd o ran gweithredu Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
22 |
2 |
27 |
51 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod nod y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol o gael gwared ar drais yn y gymuned yn golygu bod angen gweithredu'r addewidion ehangach a wnaeth Llywodraeth Cymru yn ystod hynt Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
40 |
3 |
8 |
51 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi â phryder y cynnydd mewn troseddau casineb yr adroddwyd arnynt yng Nghymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
47 |
0 |
3 |
50 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod ymdrechion y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i sicrhau bod cydraddoldeb a hawliau dynol yn cael eu hymgorffori yn y gwaith a gaiff ei wneud o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2017 yn golygu y bydd angen "deialog gwirioneddol rhwng cymunedau, unigolion a’u gwasanaethau cyhoeddus" yn unol â'r hyn y galwodd Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol amdano yn ei chynllun strategol drafft.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
50 |
0 |
0 |
50 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM6608 Julie James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi Adolygiad Blynyddol Pwyllgor Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru 2016-2017.
2. Yn nodi bod nod y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol o gael gwared ar drais yn y gymuned yn golygu bod angen gweithredu'r addewidion ehangach a wnaeth Llywodraeth Cymru yn ystod hynt Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015.
3. Yn nodi â phryder y cynnydd mewn troseddau casineb yr adroddwyd arnynt yng Nghymru.
4. Yn nodi bod ymdrechion y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i sicrhau bod cydraddoldeb a hawliau dynol yn cael eu hymgorffori yn y gwaith a gaiff ei wneud o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2017 yn golygu y bydd angen "deialog gwirioneddol rhwng cymunedau, unigolion a’u gwasanaethau cyhoeddus" yn unol â'r hyn y galwodd Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol amdano yn ei chynllun strategol drafft.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
51 |
0 |
0 |
51 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
Dechreuodd yr eitem am 18.15
Yn unol â Rheol Sefydlog 26.50C, rhaid cynnal pleidlais wedi'i chofnodi ar gynigion Cyfnod 4, felly gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig hwn tan y cyfnod pleidleisio.
NDM6613 – Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:
Yn cymeradwyo Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru).
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
50 |
0 |
0 |
50 |
Derbyniwyd y cynnig.
Dechreuodd yr eitem am 18.33
Daeth y cyfarfod i ben am 18.36
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 13 Rhagfyr 2017